top of page

Y Prawf Gyrru Car Ymarferol

Mae'r prawf gyrru'n syml ac wedi'i gynllunio i weld a ydych:

Yn gallu gyrru’n ddiogel dan wahanol amodau ffordd a thraffig Yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr ac yn gallu dangos hynny wrth yrru

Felly, cyn belled â'ch bod yn gyrru i'r safon angenrheidiol, byddwch yn pasio'ch prawf gyrru. Nid oes cwotâu pasio na methu.

Beth fydd angen i chi fynd gyda chi i’r prawf gyrru

Mae angen i chi ddod â dogfennau penodol gyda chi i’ch prawf gyrru. Mae angen i chi ddod â char y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y prawf hefyd.

Cyn i chi ddechrau ar y rhan o’r prawf sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyrru, cewch brawf golwg a gofynnir i chi ateb dau gwestiwn am ddiogelwch cerbydau.

Y prawf golwg

Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sydd wedi parcio er mwyn profi eich golwg. Os byddwch yn methu’r prawf, ni fydd eich prawf gyrru yn parhau.

Cwestiynau ‘dangoswch i mi, dywedwch wrtha'i’.

Gofynnir dau gwestiwn i chi am ddiogelwch cerbydau. Gelwir y rhain hefyd yn gwestiynau ‘dangoswch i mi, dywedwch wrtha' i’.

Bydd yr arholwr yn gofyn un cwestiwn ‘dangoswch i mi’, lle bydd rhaid i chi ddangos iddo sut y byddech chi'n gwneud prawf diogelwch ar gerbyd. Gofynnir un cwestiwn ‘dywedwch wrtha'i’ hefyd, lle bydd rhaid i chi egluro wrth yr arholwr sut byddech yn gwneud y prawf.

Bydd ateb un neu’r ddau gwestiwn yn anghywir yn arwain at un camgymeriad gyrru.

Y rhan o’r prawf sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyrru

Bydd rhan gyrru eich prawf yn para tua 40 munud. Drwy gydol y prawf, bydd yr arholwr yn chwilio am safon yrru ddiogel yn gyffredinol.

Eich gallu cyffredinol i yrru

Yn ystod eich prawf bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Byddwch yn gyrru dan wahanol amodau ffordd a thraffig. Dylech yrru yn y ffordd y mae’ch hyfforddwr wedi eich dysgu i yrru.

Efallai y gofynnir i chi stopio ar frys hefyd.

Eich gallu i facio eich cerbyd yn ôl yn ddiogel

Gofynnir i chi wneud ymarfer i ddangos pa mor dda allwch chi facio eich cerbyd yn ôl. Bydd yr arholwr yn dewis un ymarfer o blith y canlynol:

Bacio’n ôl i barcio – naill ai i mewn i le parcio, neu barcio’n gyfochrog â char arall ar ymyl y ffordd. Parcio mewn lle parcio a bacio allan neu parcio ar ochor dde y ffordd a bacio'n ol.

Rhan gyrru’n annibynnol y prawf gyrru

Bydd eich prawf gyrru yn cynnwys oddeutu ugain munud o yrru’n annibynnol. Bwriad hyn yw asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.

Os gwnewch gamgymeriad yn ystod eich prawf

Os gwnewch chi gamgymeriad, peidiwch â phoeni. Mae'n bosib nad yw'r camgymeriad yn un difrifol ac na fydd yn effeithio ar ganlyniad eich prawf. Os yw eich arholwr ar unrhyw adeg yn ystyried eich bod yn peryglu defnyddwyr eraill ar y ffordd wrth yrru, bydd yn dod â’ch prawf i ben.

Canlyniad eich prawf gyrru

Eich canlyniad

Byddwch yn pasio eich prawf os byddwch yn gwneud:

15 neu lai o gamgymeriadau gyrru Dim un camgymeriad difrifol na pheryglus

Pan fydd y prawf gyrru wedi dod i ben, gallwch alw eich hyfforddwr draw os nad aeth gyda chi ar eich prawf. Gall wrando ar y canlyniad a’r adborth gyda chi.

Bydd yr arholwr yn gwneud y canlynol:

Dweud wrthych a ydych chi wedi pasio ynteu fethu’r prawf Egluro sut aeth y prawf

Y gwahanol fathau o gamgymeriadau y gellir eu nodi

Ceir tri math gwahanol o gamgymeriad y gellir ei nodi:

Camgymeriad peryglus – pan fyddwch yn rhoi eich hun, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo mewn perygl Camgymeriad difrifol – a allai fod yn beryglus Camgymeriad gyrru – na allai fod yn beryglus, ond os gwnewch yr un camgymeriad drwy gydol eich prawf gallai fod yn gamgymeriad difrifol

Y marc sydd ei angen er mwyn pasio’r prawf gyrru

Gallwch wneud hyd at 15 o gamgymeriadau gyrru a byddwch yn dal i basio’r prawf. Os gwnewch 16 neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio eich prawf.

Os gwnewch un neu ragor o gamgymeriadau difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio eich prawf.

Os byddwch yn pasio eich prawf

Os byddwch yn pasio eich prawf, bydd yr arholwr yn rhoi tystysgrif pasio i chi. Bydd hefyd yn gofyn i chi a ydych am i’ch trwydded lawn gael ei hanfon atoch yn awtomatig.

Ar ôl i chi basio eich prawf, gallwch ddechrau gyrru ar unwaith – ni fydd rhaid i chi aros i'ch trwydded lawn gyrraedd.

Sefyll prawf arall os na fyddwch yn pasio

Os na fyddwch yn pasio eich prawf, gallwch sefyll un arall ar ôl deg diwrnod gwaith. Mae diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn.

Adborth ynghylch pa mor eco-effeithlon ydych chi wrth yrru

Bydd yr arholwr yn rhoi adborth defnyddiol i chi ynghylch pa mor eco-effeithlon ydych chi wrth yrru.

Pan gaiff profion gyrru eu canslo neu eu stopio

Weithiau bydd rhaid i DSA ganslo neu stopio profion gyrru oherwydd pethau fel tywydd garw neu broblemau gyda cherbydau. Cael gwybod beth sy’n digwydd os bydd eich prawf yn cael ei ganslo neu ei stopio, a beth sydd angen i chi ei wneud pan mae tywydd garw.

Sefyll Eich Prawf Theori

Os byddwch chi'n pasio un rhan ac yn methu'r llall, byddwch yn methu'r prawf i gyd, a bydd yn rhaid i chi sefyll y ddwy ran eto.

Bydd y cwestiynau a gewch chi yn y rhan amlddewis yn dibynnu ar ba gategori ydych chi’n gobeithio cael trwydded ar ei gyfer. Er enghraifft, bydd y prawf theori ar gyfer beiciau modur yn cynnwys cwestiynau sydd ddim yn ymddangos mewn unrhyw brawf arall.

Yn achos y rhan adnabod peryglon, ni cheir fersiynau gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol, ond mae'r marc pasio yn wahanol ar eu cyfer.

Y rhan amlddewis

Cyn i'r prawf ddechrau, fe gewch chi gyfarwyddiadau a fydd yn egluro sut mae'r prawf yn gweithio.

Fe gewch chi hefyd gynnig gwneud sesiwn ymarfer ar y cwestiynau amlddewis er mwyn dod i arfer â’r prawf. Ar ddiwedd y sesiwn ymarfer, bydd y prawf go iawn yn dechrau.

Sut mae’r rhan amlddewis yn gweithio

Bydd cwestiwn ac amryw o atebion posib yn ymddangos ar y sgrin – rhaid i chi ddewis yr ateb cywir. Efallai y bydd mwy nag un ateb i rai cwestiynau.

Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf.

Bydd rhai cwestiynau ar gyfer ceir a beiciau modur yn cael eu rhoi fel astudiaeth achos.

Bydd yr astudiaeth achos yn:

Dangos stori fer, a budd pum cwestiwn yn seiliedig ar y stori Canolbwyntio ar enghreifftiau a phrofiadau go iawn y gallai gyrwyr ddod ar eu traws wrth yrru

Amser a ganiateir: 57 munud

Marc pasio: 43 allan o 50

Ar ôl y rhan amlddewis, fe allwch chi ddewis cael toriad o hyd at dri munud cyn i'r prawf adnabod peryglon ddechrau.

Y rhan adnabod peryglon

Cyn cychwyn y rhan adnabod peryglon, dangosir clip fideo byr i chi yn dangos sut mae'r rhan adnabod peryglon yn gweithio.

Yna cewch weld cyfres o glipiau fideo ar y sgrin. Bydd y clipiau:

Yn cynnwys sefyllfaoedd sy’n digwydd bob dydd ar y ffyrdd Yn cynnwys o leiaf un perygl sy’n datblygu – ond bydd un o’r clipiau’n dangos dau berygl sy'n datblygu

Mae perygl sy’n datblygu yn golygu rhywbeth a allai arwain i chi orfod gweithredu, megis newid cyflymder neu gyfeiriad.

Sut mae’r system sgoriau adnabod peryglon yn gweithio

Cynhara’n byd y byddwch chi’n sylwi ar y perygl sy’n datblygu ac yn ymateb, yr uchaf fydd eich sgôr. Pum pwynt yw’r sgôr uchaf y gallwch chi ei gael ar gyfer pob perygl sy'n datblygu.

I gael sgôr uchel, mae angen i chi wneud y canlynol:

Ymateb i’r perygl sy’n datblygu pan fydd y perygl yn dechrau datblygu Gwasgu botwm y llygoden cyn gynted ag y byddwch chi’n gweld perygl yn datblygu

Ni fydd yn bosib i chi weld eich atebion i’r prawf adnabod peryglon.

Os byddwch chi’n clicio’n ddi-baid neu mewn patrwm yn ystod clip, bydd neges yn ymddangos ar y diwedd. Bydd yn dweud wrthych eich bod wedi cael sero ar gyfer y clip penodol hwn.

Pryd ddylech chi ymateb i berygl – enghraifft

Dychmygwch gar wedi parcio ar ochr y ffordd. Wrth ei weld am y tro cyntaf, nid yw'n gwneud dim – dim ond car wedi'i barcio ydyw. Pe byddech chi'n ymateb nawr, ni fyddech yn sgorio unrhyw farciau, ond ni fyddech yn colli unrhyw farciau chwaith.

Y gwahaniaeth rhwng perygl posibl a pherygl sy’n datblygu

Wrth ddynesu at y cerbyd, rydych chi’n sylwi fod arwyddion cyfeirio ochr dde'r car yn dechrau fflachio. Byddai hyn yn gwneud i chi feddwl bod gyrrwr y car yn mynd i symud. Mae’r perygl yn dechrau datblygu, a byddech chi’n cael marciau am ymateb nawr.

Mae'r ffaith bod yr arwyddion cyfeirio yn fflachio yn arwydd bod y car wedi newid o fod yn berygl posibl i fod yn berygl sy'n datblygu.

Wrth ddynesu at y car, mae'n debyg y byddwch yn ei weld yn dechrau symud oddi wrth ochr y ffordd. Dylid ymateb eto nawr.

Clipiau fideo: 14 clip

Peryglon sy’n datblygu: 15

Marc pasio: 44 allan o 75

Eich tystysgrif pasio

Bydd eich tystysgrif pasio prawf theori yn dod i ben dwy flynedd ar ôl i chi basio’ch prawf

Ar ddiwedd y prawf fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid. Nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi’n dymuno, ac ni fyddant yn effeithio ar ganlyniad y prawf.

Pan fyddwch wedi gorffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi ond chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn. Bydd staff y ganolfan arholi wedyn yn rhoi'ch canlyniad i chi.

Eich tystysgrif pasio prawf theori

Os byddwch chi’n pasio’ch prawf theori, byddwch chi’n cael tystysgrif pasio. Bydd angen hon arnoch pan fyddwch chi’n archebu a sefyll eich prawf ymarferol, felly mae’n bwysig eich bod chi’n ei chadw’n ddiogel.

Bydd eich tystysgrif pasio prawf theori yn dod i ben dwy flynedd ar ôl i chi basio’ch prawf. Os nad ydych wedi pasio’ch prawf erbyn hynny, bydd angen i chi sefyll a phasio’ch prawf theori eto.

Ar gyfer ymgeiswyr lori a bws, ar ôl i chi basio'r ddau brawf, fe fyddwch hefyd yn cael llythyr tystysgrif pasio drwy’r post.

Canolfan Prawf Wrecsam

Ground Floor, 1 Birchall House,

Technology Park,

Wrecsam LL11 7YP

bottom of page